Pontcysyllte Aqueduct

AIL-LANSIO GWEFAN SAFLE TREFTADAETH Y BYD DYFRBONT A CHAMLAS PONTCYSYLLTE AR ÔL EI WEDDNEWIDIAD

New Website launched

Mae gwefan Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte wedi cael gweddnewidiad i fodloni safonau hygyrchedd, gan ei wneud yn haws ac yn gwbl ddwyieithog ar ffonau symudol a dyfeisiau llechen.

Yn ogystal â’r golwg newydd, mae’r wefan bellach yn cynnig mynediad i gynnwys dysgu a chasgliadau newydd nad ydynt fel arfer ar gael, gan roi profiad rhithiol o gartref, a’ch caniatáu i wylio, darllen a darganfod am y lleoliad eiconig hwn a phrofi rhai o ddyfrbontydd, twnelau, toriadau ac argloddiau gorau sydd wedi’u hadeiladu erioed.

Mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy ychwanegu gweithgareddau dysgu ac addysgu newydd ar gyfer teuluoedd ac ysgolion, gan ddweud yr hanes drwy wrthrychau a’r cread o deithiau rhithiol o’r coridor 11 milltir.

Fe lansiwyd y wefan pan oedd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, yn ymweld â Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.  Yn ystod yr ymweliad, dywedodd y Dirprwy Weinidog; “Rydw i’n falch iawn o ymweld â’r safle arbennig yma – a chyfarfod â phobl sydd â’r fath angerdd am y Safle Treftadaeth y Byd.  Bydd y wefan newydd yn helpu i gyflwyno’r ddyfrbont a’r gamlas i gynulleidfaoedd newydd o bob oed.

“Mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn heriol i gymaint o sectorau, ac rwy’n falch o glywed bod y Cyllid Adfer Diwylliannol gan Lywodraeth Cymru wedi bod o gymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Mae’n braf clywed bod y tîm bellach yn edrych i’r dyfodol ac ar gynlluniau fydd yn sicrhau bod Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte’n parhau i gynnig manteision, rhai economaidd a diwylliannol, i’n cymunedau, ein busnesau a’n pobl ifanc – ac yn rhywbeth cadarnhaol sy’n hyrwyddo’r rhanbarth a Chymru ar hyd a lled y byd.”

Dywedodd Ian Bancroft, Cadeirydd y Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd “Mae’r wefan ddiweddaraf yn rhoi’r holl wybodaeth rydych ei angen i ymweld â Dyfrbont Pontcysyllte yn ogystal â’r trefi, pentrefi a’r atyniadau ar hyd yr 11 milltir o Safle Treftadaeth y Byd.

“Ynghyd â’r tir Safle Treftadaeth y Byd arall yng Nghymru – mae Pontcysyllte yn hanfodol i gynnig twristiaeth Wrecsam ac mae cael gwefan modern a hygyrch yn galluogi dealltwriaeth well o’r safle a chaniatáu ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw er mwyn parhau i ymweld â’r ardal hynod hon.”

Dywedodd Mark Evans, Cyfarwyddwr Cymru o Glandŵr Cymru: “Mae’r 11 milltir o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn denu miloedd o gychod a thwristiaid i Gymru bob blwyddyn. Bydd y wefan yn helpu i hyrwyddo’r safle arbennig hwn ar draws y byd a galluogi pobl i ddarganfod hanes y safle treftadaeth pwysig hwn.

“Mae Camlas Llangollen yn rhan o’r tirlun hardd ac yn gartref i rai o gampweithiau peirianneg, gan gynnwys Dyfrbont Pontcysyllte, sy’n werth ei weld gyda golygfeydd dros Ddyffryn Dyfrdwy.

“Mae ein hymchwil yn dangos fod treulio amser ger y dŵr yn gwneud i ni oll deimlo’n hapusach ac yn iachach, felly trefnwch eich ymweliad heddiw, a dewch i weld y rhan anhygoel hon o Gymru.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Mae cael gwefan sy’n fodern ac yn gwbl hygyrch yn hanfodol i ddiwallu’r gynulleidfa fyd-eang y mae’r safle yn ei ddenu.

“Mae hefyd yn rhoi profiad ymwelwr rhithiol ar gyfer y rhai sydd methu ymweld yn bersonol. Hoffwn ddiolch i bawb oedd yn rhan am eu gwaith ar y wefan ac edrychaf ymlaen i weld y cynnydd ar y Cynllun Llysgennad Busnes.”

Cynllun Llysgennad Busnes Safle Treftadaeth y Byd

Bydd y wefan yn parhau i ddatblygu gyda chyflwyniad Cynllun Llysgennad Busnes Safle Treftadaeth y Byd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a fydd yn adeiladu ar y Cynllun Llysgennad Twristiaeth Gogledd Cymru presennol.

Mae wedi cael ei ddylunio ar gyfer busnesau twristiaeth o fewn yr 11 milltir o Safle Treftadaeth y Byd i’w cynnwys yn dilyn cwblhau ychydig o fodiwlau byr, yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad i fynd ymhellach i argymell yr ardal i ymwelwyr.

Bydd hyn yn helpu i gefnogi adferiad busnes twristiaeth ar ôl Covid a pharhau i ddatblygu economi twristiaeth ffyniannus, gyda phobl angerddol yn ganolog.

Mae’r wefan ar ei newydd wedd wedi cael ei gefnogi gydag arian gan Gronfa Ymgysylltu â Thwristiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru, a gweithgareddau newydd wedi’u hariannu drwy Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru.

Mae’r prosiect cyffrous hwn wedi cael ei ddatblygu ar ran Safle Treftadaeth y Byd gan Glandŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Camlas ac Afonydd yng Nghymru, mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam, ac mae’n darparu gwybodaeth ac adnoddau addysgol gwych i ymwelwyr posibl, gan ei galluogi i gynllunio eu hymweliad.

 

Pontcysyllte Aqueduct

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *