Dathliadau Llwybr Clawdd Offa

50th anniversary of the Offa's Dyke Path.

Ddydd Sadwrn 10fed Gorffennaf 2021 roedd hi’n 50fed pen-blwydd Llwybr Clawdd Offa

Mae Llwybr Clawdd Offa yn llwybr cerdded 177 milltir (285 Km) o hyd. Mae’n dilyn llwybr ac wedi ei enwi ar ôl y Clawdd enwog y gorchmynnodd y Brenin Offa iddo gael ei adeiladu yn yr 8fed ganrif, er mwyn gwahanu Teyrnas Mercia oddi wrth ei elynion yng Nghymru.

Roedd y dathliadau a’r digwyddiadau i ddathlu’r achlysur yn cynnwys cyflwyno casgliad o arwyddion ffordd newydd sbon i ddynodi’r hanner canfed pen-blwydd ar hyd y llwybr 177 milltir o hyd. Caiff cerddwyr eu hannog i dynnu hunluniau gyda’r arwyddion a defnyddio’r hashnod #LlwybrClawddOffa50.

Yn ogystal a hyn, mae 12 bardd amlwg yng Nghymru wedi cyfansoddi cyfres o gerddi, a phob un yn cynrychioli gwahanol ran o’r Llwybr. Mae’r cyfan yn cyfrannu at arddangosfa newydd sbon a lansiwyd ar 10 Gorffennaf. Ynddi, bydd yr artist o Gymru, Dan Llywelyn Hall yn dangos casgliad arbennig o ddarluniau yng Nghanolfan Clawdd Offa – a phob un ohonynt wedi eu hysbrydoli gan Lwybr Clawdd Offa ei hun.

Fwy o wybodaeth, ewch i Offa’s Dyke Path – National Trails

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *