Llangollen Wharf

Glanfa Llangollen

O Fasnach i Dwristiaeth
Mae Glanfa Llangollen yn un o’r llefydd mwyaf poblogaidd ar hyd Camlas Llangollen. Yma mae ceffylau’n tynnu llond cychod o ymwelwyr cyffrous ar hyd y gamlas, yn union fel y gwnaethon nhw am bron i 150 o flynyddoedd. Ar hyd y gamlas i gyfeiriad Trefor, cewch olygfeydd arbennig o Gastell Dinas Brân a Chreigiau Trefor, ble bu gwaith cloddio helaeth dros y blynyddoedd.

Cyflwyniad

Roedd Llangollen eisoes yn dref farchnad bwysig pan gyrhaeddodd y gamlas. Elwodd y dref a diwydiannau lleol wrth i gyflenwadau hanfodol, fel glo gyrraedd ar gychod a llechi, calch a nwyddau eraill yn cael eu hallforio’n haws ac yn rhatach.

Adeiladwyd glanfa gyhoeddus a warws ar gychwyn y 1800oedd. Adeiladwyd y warws yn wreiddiol o garreg leol ond cafodd ei ymestyn wedyn wrth i’r masnachu dyfu.

Cyrhaeddodd y trên nwyddau cyntaf ym 1861 ac yn araf bach fe dawelodd y gamlas. Ond cychwynnwyd cynnig teithiau pleser ar gychod yn yr 1880au ac maen nhw yr un mor boblogaidd gydag ymwelwyr heddiw!

Cliciwch ar unrhyw farciwr Pwynt o Ddiddordeb i weld y disgrifiad

1. Basn Angori Llangollen

Cychwynnodd Basn Angori Llangollen fel twll weindio neu droi, pan adeiladwyd y gamlas er mwyn galluogi cychod i droi rownd gan na fyddai llawer ohonynt yn teithio at ben draw’r gamlas i Landysilio-yn-Iâl.

Basn Angori Llangollen © Jo Danson

Yn 2004 cafodd y twll weindio ei gynnwys yn y Basn Angori ar gyfer 32 o gychod am gost o £1.9 miliwn. Mae’r angorfa yn union gyferbyn a safle Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae ymwelwyr enwog fel Harrison Ford a’i wraig Calista Flockhart wedi bod ar wyliau ar gwch cul ac ymweld a’r Eisteddfod Ryngwladol. Ond er eu bod yn mwynhau treulio’r dydd yn teithio ar y cwch cul, roedd yn well ganddynt aros dros nos mewn gwestai gyda digon o le!

Basn Angori Llangollen © Jo Danson

2. Glanfa Llangollen

Mae ymwelwyr wedi mwynhau teithiau ar hyd y gamlas o Lanfa Llangollen ers 1881 pan oedd Mr Newbery o Westy’r Royal yn rhedeg gwasanaeth cwch pleser o Lanfa Llangollen hyd at y Bont Gadwyni, sef y cwch cyntaf i gynnig gwasanaeth pleser ar gamlas ym Mhrydain mwy na thebyg.

Ym 1884, fe brynodd Capten Samuel Jones o Langollen hen gwch ‘The Pioneer’ a chychwyn busnes yn rhedeg teithiau dyddiol at y Bont Gadwyni a Rhaeadr y Bedol.

Glanfa Llangollen © Heather Williams

Cyfarfod ag Ifan a Taffy

Disgrifiai Capten Jones y daith o Raeadr y Bedol fel ‘taith drwy fawredd naturiol heb ei ail’ ac erbyn 1890 roedd wedi cynyddu ei fflyd i chwech o gychod pleser, a’r un fwyaf yn dal 200 o deithwyr, er mwyn bodloni’r galw cynyddol. Yr y pryd, roedd angen saith o ddynion a phum ceffyl am gost sylweddol ond dywedodd na fyddai’n cwyno am hynny.

Roedd Capten Jones wedi teithio’r byd yn gweithio ar y cychod stêm fel prif beiriannydd. Mae stori iddo gael ei orfodi i dderbyn pensiwn pan roedd o’n feddw ac wedi disgyn oddi ar bont llong!

Yn sicr, ym 1901 cafodd ei gyhuddo o chwythu corn niwl mewn lle cyhoeddus ac achosi niwsans cyhoeddus, rhywbeth a wnâi bob hanner awr er mwyn dweud fod y cwch yn barod i adael.

Mae cychod yn cael eu tynnu gan geffylau wedi mynd o Lanfa Llangollen ers hynny. Ystyrir hwn yn un o fusnesau hamdden hynaf Gogledd Cymru a bellach mae’n un o dri chwmni yn unig yn y DU sy’n dal i dynnu cychod gyda cheffylau.

Mae’r busnes yn dal i ffynnu gyda dros 30 o staff yn cael eu cyflogi yn ystod misoedd prysur yr haf. Yr atyniad mawr yw’r pum merlyn Cymreig sy’n tynnu’r cychod. Gall y ceffylau, sy’n gweithio dim mwy na 3 awr y dydd, dynnu cwch yn rhwydd gyda hyd at 50 o deithwyr ynddi ac yn pwyso 20 tunnell, ar y daith i Bentrefelin a Rhaeadr y Bedol.

Glanfa Llangollen © Jo Danson

© Amgueddfa Llangollen

3. Allt y Cei

Mae Wharf Cottage ar ymyl y gamlas ac yn wreiddiol, hwn oedd cartref y fforman, a elwid weithiau’n lanfäwr. Roedd yn gyfrifol am y nwyddau a ddanfonwyd i’r lanfa a gweithgareddau dyddiol eraill, ac mae’n debyg fod ganddo swyddfa yn yr adeiladau ar y lanfa.

Wharf Cottage canalside

© Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae tai rhif 1 a 2 Royal View yn cyfeirio at yr olygfa anhygoel oedd ganddyn nhw dros dref Llangollen. Un eiddo oedden nhw’n wreiddiol ac mae’n debyg eu bod wedi eu hadeiladu’n fuan ar ôl creu’r gamlas.

Ym 1901, oedd gwerthwr glo cyfoethog o’r enw Charles Williams yn byw yno gyda’i wraig Mary a’u naw o blant, yn ogystal ag un o’i weithwyr. Erbyn 1911, mab i Charles sef John, oedd hefyd yn fasnachwr glo, oedd y penteulu ac yntau’n ddim ond 22 oed ac yn byw gyda phump o’i chwiorydd, un brawd ac un o’i weithwyr.

© Hawlfraint y Goron: CBHC

© Amgueddfa Llangollen

© The National Archive Crown Copyright 1911

4. Siambr Wen

Mae Siambr Wen yn edrych fel castell gyda ragfuriau rhicynnog a thyrrau wyth ochrog bob pen. O fewn muriau’r garej mae slabiau cerrig canoloesol a chredir eu bod yn dyddio o’r 1300oedd a’u bod wedi dod o Abaty Glyn y Groes.

Cawsant eu darganfod pan gafodd pont Llangollen ei hymestyn i fynd dros y rheilffordd gan Henry Robertson, sef y peiriannydd rheilffordd blaengar o’r Alban ac AS dros Amwythig. Gosodwyd y cerrig canoloesol yng ngardd y Siambr Wen ac yna yn waliau’r garej.

© Heather Williams

Arferai Siamber Wen fod yn gartref i Alexander Reid, perchennog a phartner Cwmni Cerrig Llorio Llangollen, Pentrefelin yn y 1840au. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Mwyngloddio Minera, a ffurfiwyd ym 1845 er mwyn manteisio ar y plwm yn ardal Wrecsam. Darganfu’r mwyngloddwyr gronfeydd newydd o blwm yn ddwfn o dan y ddaear felly erbyn canol y 1860au, roedd yr elw dros £60,000, sef dros £7.5 miliwn heddiw. Galluogodd hyn Alexander i symud i gartref mwy mawreddog fyth yn Llantysilio Hall ger pen draw camlas Llangollen.

Yn ddiweddarach daeth Siambr Wen yn gartref i frawd hynaf Henry Robertson, sef John a’i dair chwaer. Roedd John Robertson yn feddyg wedi ymddeol o’r fyddin ac wedi gweithio dramor, yn yr India’n bennaf, am dros 20 mlynedd. Tra roedd o yn Llangollen fel helpodd i sefydlu Ysbyty Llangollen a adeiladwyd ym 1876.

© Heather Williams

5. Melinau Dyfrdwy

Ar waelod yr arglawdd, wrth i’r gamlas adael Llangollen, mae Melin Wlân Dyfrdwy Uchaf oedd yn cael ei gyrru gan ddŵr o’r gamlas yn hytrach na dŵr yr afon. Roedd hyn yn anghyffredin mewn melin ac mae’n dangos cymaint o ddŵr oedd yn dod o’r bryniau yng Nghymru.

Melinau Dyfrdwy Uchaf © Hawlfraint y Goron: CBHC

Adeiladwyd Melin Isaf Dyfrdwy fel melin gotwm yn agos at yr afon Dyfrdwy gan yr entrepreneuriaid Turner a Comber ym 1805. Bu’r busnes yn gweithredu am ddeng mlynedd ar hugain cyn i Robert Hughes ei brynu i’w ddefnyddio fel melin i wehyddu gwlân er mwyn gwasanaethu’r diwydiant gwlân llewyrchus. Ehangodd y busnes i Felin Dyfrdwy Uchaf ym 1855 a hon oedd y fwyaf o sawl melin wlân a dyfodd yn Llangollen ar ôl adeiladu’r gamlas. Roedd y ddwy felin yn gweithio hyd at 1921.

Yn ddiweddarach bu’r masnachwyr hadau R & G Cuthberts yn defnyddio Melin Dyfrdwy Uchaf. Ym 1932, prynodd William Clayton Russon y cwmni oedd yn tyfu planhigion a rhosod yn benodol. Roedd William yn farchnatwr heb ei ail ac erbyn 1937 roedd y cwmni’n gwerthu hadau mewn pecynnau lliwgar ar gownteri Woolworths. Symudwyd y cyflenwadau hadau a phencadlys y cwmni i Gymru ar gyfarwyddyd y Llywodraeth, gan eu bod ofn y cai siroedd o amgylch Llundain eu bomio.

Yn y diwedd, yn 1942 adleolodd William y busnes i Langollen ar ôl rhoi cynnig ar ddau leoliad arall yng Ngogledd Cymru. Datblygodd William y busnes i fod yn un llewyrchus gydag archebion drwy’r post ac enw da am feintiau a phrisiau cystadleuol. Fo oedd Llywydd cyntaf Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1947 a chafodd ei urddo’n farchog ym 1968 ychydig cyn ei farwolaeth.

Melin Dyfrdwy Isaf © Amgueddfa Llangollen

© WoolworthsMuseum.co.uk

Upper Dee Mills

Melinau Dyfrdwy Uchaf

6. Llanddyn

Mae Pont Llanddyn yn fwa pont garreg, sy’n nodweddiadol o’r rhai ar gamlas Llangollen a godwyd gyda deunyddiau lleol. Cynlluniwyd y bont gan Thomas Telford a Thomas Denson rhwng 1804 a 1808.

Codwyd Bwthyn Llanddyn gan Gwmni Camlas a Rheilffordd Shropshire Union ar ddiwedd y 1800 ar gyfer fforddoliwr. Roedd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r rhan hon o’r gamlas, gan gynnwys Pont Godi Llanddyn mwy na thebyg, ac mae’n adlewyrchu trefn gynyddol y gwaith o gynnal a chadw’r gamlas. Wrth ymyl y bwthyn, mae storfa estyll atal, ble cedwir estyll i ddelio gydag unrhyw doriadau.

Mae Pont Godi Llanddyn yn rhoi mynediad at gaeau ar ddwy ochr y gamlas. Cafodd ei hailadeiladu yn y 1900oedd mewn arddull draddodiadol ond gyda pheirianwaith hydrolig.

© Hawlfraint y Goron: CBHC

Llanddyn Cottage from the west

© Hawlfraint y Goron: CBHC

7. Castell Dinas Brân

O lwybr y gamlas, gallwch weld Castell Dinas Brân yn uchel a dramatig ar y bryn. Mae’r adfeilion amlwg yma yn nodwedd enwog yn Nyffryn Dyfrdwy a dywedir ei fod yn un o’r llefydd mwyaf rhamantaidd a hudolus ym Mhrydain, gan ddenu ymwelwyr lu i ben y bryn serth.

Adeiladwyd ‘camera obscura’ yn yr adfeilion ar ddiwedd y 1800oedd er mwyn manteisio ar yr olygfa wych o’r copa. Roedd siop a lle paned ar ben y bryn hyd yn oed!

© Jo Danson

Mae Castell Dinas Brân ar safle hen fryngaer o Oes yr Haearn. Credir fod y castell wedi ei adeiladu gan un o dywysogion Cymru, Gruffudd ap Madog ar ddiwedd 1260au.

Mae’r castell ar siâp petryal a gallwch weld gweddillion y ‘tŵr Cymreig’ siâp D. Drwy edrych yn fanylach, gwelir olion plastar ar y waliau, llefydd tân a hyd yn oed toiledau, felly yn wreiddiol, roedd yn gaer wych ac amddiffynnol iawn. Roedd oes weithredol y castell yn fyr iawn, gan fod y milwyr Cymreig wedi rhoi’r lle ar dân ym 1277 rhag i fyddin y Saeson oedd yn ymosod o dan y Brenin Edward I, gael ei ddefnyddio. Am gyfnod byr, bu’r castell yn nwylo milwyr Lloegr ond fe’i gadawyd yn fuan yn gartref i’r brain, a dyma darddiad yr enw poblogaidd Dinas Brân.

Mae cyswllt rhwng y castell a chwedl Gymreig enwog am Myfanwy. Cafodd y bardd canoloesol, Hywel ab Einion ei ysbrydoli i gyfansoddi cerdd ‘Moliant i Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân sy’n adrodd hanes bardd tlawd yn mynd i’r castell i ganu ac i ddiddanu Myfanwy. Mae’n credu y bydd hi’n ateb ei alwad serch, ond caiff ei wrthod ganddi am ŵr bonheddig cyfoethog. Yn y 1800oedd, ysbrydolwyd y bardd, Richard Davies, neu Mynyddog, i ysgrifennu cerdd arall am Myfanwy a chafodd ei rhoi ar gerddoriaeth gan Joseph Parry ac mae bellach yn gân boblogaidd Gymreig.

© Hawlfraint y Goron: CBHC

© Hawlfraint y Goron: CBHC

Castell-Dinas-Bran-reconstruction

Ailadeiladu © AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

8. Sun Bank

Cafodd y Sun Inn ei henwi am ei bod yn gwerthu cwrw o’r Sun Brewery, y bragdy fu’n gweithio hiraf yn Llangollen.

Yn union o dan y Sun, roedd glanfa ar y gamlas ble roedd calchfaen yn cael ei gludo o Chwarel Trefor ar hyd tramffordd ac inclein. Gallai cychod droi i mewn i fasn ger Bryn Howel, a grëwyd er mwyn manteisio ar siâp naturiol y bryniau.

Bu damwain ofnadwy yma ar 7fed Medi 1945 pan dorrodd y gamlas ei glannau a golchi arglawdd y rheilffordd, gan adael y cledrau yn hongian yn yr awyr. Doedd dynion y signalau ddim yn gwybod fod unrhyw beth o’i le, felly fe syrthiodd trên cyntaf y dydd i’r bwlch gan ladd y gyrrwr. Yn wyrthiol, dihangodd y taniwr gyda dim ond anafiadau, a llwyddodd y gard, oedd hefyd wedi ei anafu, i gerdded yn ei ôl i Orsaf Trefor a rhybuddio pawb. Pan gyrhaeddodd yno, gofynnwyd iddo ‘Pam na wnest ti glirio’r cledrau?’ Roedd y trên wedi mynd yn wenfflam ac wedi ei dinistrio’n llwyr.

Roedd grym y dŵr wedi creu toriad o dros 35 metr o hyd a dros 15 metr o ddyfnder. Daeth yr adroddiad i’r ddamwain i’r casgliad fod gwaith cynnal a chadw’r gamlas wedi ei wneud yn drwyadl ac mai achos y bwlch oedd natur ansefydlog y clai oedd yn sylfaen iddi. Ystyriwyd fod perygl o hyd i ochrau’r gamlas dorri er fod mesurau cryfhau wedi eu cynnal. Awgrymwyd y gellid cau’r gamlas yn yr ardal hon, gan nad oedd pwysau ar y pryd i gynnal y gamlas at ddibenion llywio, ond yn y pen draw, y gamlas a arhosodd fel dull teithio yn hytrach na’r rheilffordd.

© Hawlfraint y Goron: CBHC

© Heather Williams

9. Creigiau Trefor

Mae Creigiau Trefor ar ben pellaf Creigiau Eglwyseg, sef llethrau calchfaen carbonifferaidd trawiadol. Cloddiwyd am gerrig o’r llethr am dros 200 mlynedd gan adael wyneb craig heriol i ddringwyr gael mwynhau yno.

© Hawlfraint y Goron: CBHC

Roedd chwarel Trefor Uchaf yn helaeth gydag o leiaf tri wyneb yn cael eu gweithio ar ddiwedd y 1800oedd. Roedd cyfres o odynau calch wedi eu gosod o amgylch safle’r chwarel ond roedden nhw’n segur erbyn 1912. Mae olion tŷ weindio ar ben inclein serth, un o’r incleiniau mwyaf i lawr at Gamlas Llangollen, ac yna’n ddiweddarach, y rheilffordd yng nglanfa Plas Ifan.

© Hawlfraint y Goron: CBHC

Hen odyn galch yn Nhrefor Uchaf © Hawlfraint y Goron: CBHC

© Hawlfraint y Goron: CBHC

10. Bryn Howel

Mae Bryn Howel yn dŷ trawiadol a adeiladwyd ym 1896 ar gyfer James Coster Edwards, mab J C Edwards Senior, perchennog y gwaith mawr a gynhyrchai friciau, teils a phriddwaith. Mae cynnyrch Edwards, sef y gwaith briciau coch, priddwaith, teils crog a theils to i’w gweld yn yr adeilad, ac mae’n debyg eu bod wedi eu cynhyrchu yng ngwaith y teulu ym Mhen-y-bont.

Bryn Howell

© John Allan

Roedd y gerddi a’r waliau uchel, yn cynhyrchu’r holl lysiau, ffrwythau a blodau ar gyfer y plasty. Roedd y gerddi helaeth ym ymestyn at lan y gamlas, ac adeiladwyd cwt cwch hardd yno, yn brawf o boblogrwydd mynd mewn cwch erbyn diwedd y 1800oedd.

Bu James a’i wraig a’u dau blentyn yn byw yma hyd ei farwolaeth ym 1934. Caniataodd ei wraig iddo gael ei ddefnyddio fel llety i staff y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gwerthwyd y tŷ ar ddechrau’r 1960au a’i droi yn westy. Mae gwesteion enwog fel Pavarotti wedi aros yma ar ymweliad ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1995.

© Hawlfraint y Goron: CBHC