Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte

Looking up at pontcysyllte aqueduct piers
Eiconau Diwydiannol mewn Tirwedd Ddeniadol

Mae Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn ymestyn am un ar ddeg milltir o Raeadr y Bedol yn Llandysilio i Bont y Galedryd yn Swydd Amwythig. Mae nodweddion peirianyddol sydd wedi eu dylunio’n gain yn hybu’r dirwedd ac yn ymddangos fel pe baent yn cludo’r gamlas yn ddiymdrech ar draws dau ddyffryn dwfn a thrwy dir pantiog.

Llandysilio-yn-Iâl

Horseshoe Falls Llangollen
Man Cychwyn Camlas Llangollen

Mae Rhaeadr y Bedol yng nghanol harddwch Dyffryn Dyfrdwy, ac yn ganolbwynt i’r tirlun deniadol hwn sydd wedi ysbrydoli awduron, artistiaid a cherddorion dros y canrifoedd. Yma, daw dŵr o’r Ddyfrdwy i fwydo Camlas Llangollen drwy gored a gynlluniwyd gan William Jessop, Thomas Telford a Thomas Denson i gyd-fynd â’r amgylchedd a’i wella.

Y Galedryd

Porth i Safle Treftadaeth y Byd

Mae Pont y Galedryd yn borth i Safle Treftadaeth y Byd ble roedd tirwedd bryniog Cymru yn creu her i’r peirianwyr oedd angen gweld sut y gellid cludo’r gamlas ar draws dyffrynnoedd dyfnion yr afonydd.

Pontcysyllte

Pontcysyllte Aqueduct
Y Nant yn yr Awyr

Dyfrbont Pontcysyllte yw trysor pennaf Safle Treftadaeth y Byd. Dyma oedd dyfrbont dalaf a fordwyol y byd am dros 200 mlynedd ar ôl iddi agor yn 1805, ac fe’i hadeiladwyd gan ddefnyddio technoleg arloesol. Mae creosi’r ddyfrbont yr un mor gyffrous heddiw ag yr oedd pan y’i hagorwyd am y tro cyntaf.

Froncysyllte

Lift Bridge Froncysyllte
Y Gymuned ger y Gamlas

Ffynnodd Froncysyllte wrth i’r gamlas gynnig trafnidiaeth hawdd a chyfleoedd i fusnesau dyfu. Mae’r bont godi eiconig yn ganolbwynt i’r pentref, ac ar hyd y gamlas mae dau fryncyn o odynau calch yn aros i’n hatgoffa o’r diwydiant a fu yma.

Cefn Mawr

Cefn Mawr
Pentref a siapiwyd gan Adnoddau Naturiol

Mae’r cyfoeth o adnoddau naturiol o amgylch Cefn Mawr yn cynnwys tywodfaen o ansawdd uchel, haen fawr o lo gyda dyddodion clai cysylltiol, a mwynglawdd haearn, sydd wedi cael ei gloddio ers yr oesoedd canol. Wrth i ddiwydiant ddatblygu, tyfodd y pentref i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol.

Y Waun

Chirk Aqueduct from below
Tref Ffiniol

Mae’r Waun yn cynnwys sawl nodwedd beirianyddol, gyda dyfrbont, traphont a thwnnel wedi’u clystyru o amgylch yr ardal, a oedd unwaith yn gei cyhoeddus ar gyfer y dref. Adeiladwyd y draphont sawl blwyddyn ar ôl y dyfrbont ac roedd yn darparu cystadleuaeth chwyrn ar gyfer masnach ar y gamlas, ond heddiw maent yn gorwedd yn gytûn yn y tirlun yn eu tywodfaen cynnes.

Glanfa Llangollen

Llangollen Wharf
O Fasnach i Dwristiaeth

Mae Glanfa Llangollen yn un o’r llefydd mwyaf poblogaidd ar hyd Camlas Llangollen. Yma mae ceffylau’n tynnu llond cychod o ymwelwyr cyffrous ar hyd y gamlas, yn union fel y gwnaethon nhw am bron i 150 o flynyddoedd. Ar hyd y gamlas i gyfeiriad Trefor, cewch olygfeydd arbennig o Gastell Dinas Brân a Chreigiau Trefor, ble bu gwaith cloddio helaeth dros y blynyddoedd.

Llangollen

Llangollen
Lle mae Cymru a’r Byd yn dod ynghyd

Mae Llangollen, yn harddwch Dyffryn Dyfrdwy, wedi denu ymwelwyr ers blynyddoedd lawer, i edmygu’r golygfeydd a mwynhau teithiau cerdded ar hyd yr afon a glan y gamlas. Mae arlunwyr ac awduron yn dal i gael eu hysbrydoli gan y tirlun godidog sy’n llawn nodweddion naturiol a hanesyddol.