Little Star anglo Welsh Pontcysyllte aqueduct trip boat

Anglo Welsh yn cynnig Taith mewn Cwch ar y Ddyfrbont

‘Seren Fach’

Mae ‘Seren Fach; y cwch ym Masn Trefor, yn cynnig cyfle i ymwelwyr deithio ar hyd y Nant yn yr Awyr.

Mae’r daith gylchol 45 munud ar hyd Dyfrbont Pontcysyllte, sy’n 126 troedfedd o uchder yn arwain at olygfeydd anhygoel ar draws Dyffryn Dyfrdwy, gan ei wneud yn brofiad cyffrous a bythgofiadwy.

Mae’r tymor bellach wedi dod i ben. Bydd ein cwch deithiau’n mynd ar ddyddiau Sadwrn yn unig yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr. Bydd y daith gyntaf yn cychwyn am 11am, a’r olaf am 2.30pm. Mae’n syniad da archebu ymlaen llaw rhag cael eich siomi. I gael gwybod mwy ac i archebu, ewch i https://www.anglowelsh.co.uk/little-star/.