Angle Welsh narrow boat across Pontcysyllte aqueduct

Anglo Welsh

Un o'r cwmnïau gwyliau cychod camlas mwyaf yn y DU, gyda dros 55 mlynedd o brofiad

Mae ‘Seren Fach’, neu ‘Little Star’, y cwch teithiau ym Masn Trefor, yn cynnig cyfle i ymwelwyr fynd ar fordaith ar draws Traphont Ddŵr anhygoel Pontcysyllte yn uchel uwchben Afon Dyfrdwy. Mae’r profiad ‘rhestr o bethau i’w gwneud’ hwn yn cynnig mordaith gyffrous a bythgofiadwy heb ei hail ar hyd Camlas Llangollen, wrth fwynhau golygfeydd godidog ar draws Dyffryn Dyfrdwy.

Mae tîm gwybodus Anglo Welsh yn rhoi sylwebaeth am y draphont ddŵr a Chamlas Llangollen yn ystod y daith 45 munud. Mae’n ffordd wych o ddysgu mwy am hanes diddorol y safle wrth fwynhau’r golygfeydd godidog.

Mae’r teithiau’n gadael bob dydd am 11am, 12 hanner dydd, 1.30pm, 2.30pm a 3.30pm o Lanfa’r Gamlas, Trefor, Llangollen LL20 7TT.

Mae tocynnau oedolion yn £10, plant dan 16 oed yn £6, tocyn teulu yn £25 (2 oedolyn, 2 blentyn). Gellir archebu tocynnau ymlaen llaw ar-lein yn https://www.anglowelsh.co.uk/little-star/ neu ar y diwrnod ar y cwch, yn amodol ar argaeledd.

Anglo Welsh sign

Lleoliad

2 The Hide Market, West Street, Bristol
BS2 0BH