Mae cyffro enfawr yn Wrecsam ar hyn o bryd, wrth iddi baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r sir! Eleni, bydd y Maes (safle’r ŵyl) wedi’i leoli yn Is-y-Coed, dim ond 5 milltir o ganol y ddinas. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru a’r Gymraeg, gyda channoedd o ddigwyddiadau, gweithgareddau a pherfformiadau yn cael eu cynnal yn yr ŵyl dros yr 8 diwrnod. Dyma’r rhaglen ar-lein i roi blas i chi o’r hyn sy’n digwydd. Cadwch olwg am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ymylol sy’n digwydd yng nghanol y ddinas. Mae croeso cynnes yma yn Wrecsam!

Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Wrecsam 2-9 Awst
Eisteddfod!