Gwybodaeth

Hoffem roi gwybod i ymwelwyr a thrigolion y bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun 2 Chwefror 2026 ar y bloc toiledau yn y maes parcio Bathodynnau Glas ym Masn Trefor. Bydd y cyfleusterau’n cael eu hadnewyddu’n llwyr, a bydd maint y toiled presennol i bobl anabl yn cael ei gynyddu, gan ganiatáu iddo fod yn gyfleuster newid hefyd. Ar ben hynny, bydd yr ardal gyfagos yn cael ei thacluso a bydd gwybodaeth newydd i ymwelwyr yn cael ei gosod.

Dylai’r gwaith gymryd 3 neu 4 wythnos, a bydd toiledau’n parhau i fod ar gael drwy gydol y cyfnod hwn. Mae’r gwelliannau hyn wedi bod yn bosibl diolch i gyllid ‘Y Pethau Pwysig’ gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn gobeithio tarfu cyn lleied â phosibl ar eich ymweliad ac yn edrych ymlaen at ddarparu cyfleusterau newydd i’n hymwelwyr i gyd.

Er gwybodaeth, bydd y Ganolfan Ymwelwyr yn ailagor o ddydd Gwener i ddydd Sul, 10am i 3pm, ar ddydd Gwener 13 Chwefror. Yna o 27 Mawrth bydd ar agor bob dydd, 10am i 4pm.