Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Have your say!

Estynnir gwahoddiad i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i chwarae rhan hollbwysig mewn llunio dyfodol un o dirweddau harddaf a mwyaf nodedig y DU yng Ngogledd Cymru.

I ddechrau, gall aelodau’r cyhoedd ychwanegu eu llais at yr hyn y maent yn ei feddwl sy’n gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig. Bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio i benderfynu pa rannau o’r dirwedd genedlaethol gydnabyddedig honno a fydd yn cael sylw a gofal arbennig ychwanegol.

Yn ogystal â hynny, bydd nifer gyfyngedig o bobl yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn Panel Dinasyddion – sy’n cynnwys pobl gyffredin sy’n byw ac yn gweithio yn y dirwedd ac yn ymweld â hi – i roi ffocws i dîm a phartneriaid y Dirwedd Genedlaethol am y pum mlynedd nesaf.

Bydd y Panel yn trafod y tair prif thema ganlynol:

  • Natur a Defnydd Tir – gan gynnwys adfer natur, newid yn yr hinsawdd a rheoli tir.
  • Cymunedau a Gwydn – edrych ar wasanaethau, tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth.
  • Mwynhad a Lles – gan gynnwys twristiaeth, hamdden a pha fath o economi ymwelwyr sydd orau i’r ardal.

I gofrestru cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://forms.office.com/e/ai86gmyJKv 

Y dyddiad cau i gofrestru yw 31 Gorffennaf 2025.