Hepgor gwe-lywio
Ty ol Rhestr English

Y 3 Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Personoliaethau mawr, uchelgais, athrylith greadigol

 

divider curve
Blaenavon, man with spade

Tirwedd Diwydiannol Blaenafon

Mae’r dirwedd drawiadol a rhyfeddol hardd hwn wedi’i ffurfio gan ddwy ganrif o gloddio glo a haearn a gwneud haearn.  Yn ei ganol mae Gwaith Haearn Blaenafon, y gwaith haearn mwyaf a mwyaf technolegol yn y byd pan gafodd ei agor yn 1787. Mae’n un o’r adeiladau pwysicaf sydd wedi goroesi o flynyddoedd cynnar y Chwyldro Diwydiannol.

Tyfodd cymuned ffyniannus o amgylch y Gwaith Haearn.  Cafodd cartrefi eu hadeiladu yng nghysgod y ffwrneisi ar gyfer y gweithwyr a’u teuluoedd yn ogystal ag ysgol ar gyfer plant y gweithwyr haearn.  Creodd hunangymorth Neuadd y Gweithwyr lle ymdrechodd dynion, drwy addysg, am fywyd gwell.

Ers i’r Gwaith Haearn a’r pyllau gau, mae grug a phlanhigion rhostir wedi cytrefu tomenni gwastraff diffaith a chreithiau chwarel yn y dirwedd o’i amgylch, gan greu cynefin ucheldir lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu ymysg olion yr hen dramffyrdd.   Nid yn unig mae Blaenafon yn dyst i ymdrech ddynol, mae hefyd yn dyst i rym iacháu natur.

Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

Arysgrif UNESCO 2000

divider curve

Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd

Mae pedwar caer fawr Harlech, Biwmares, Conwy a Chaernarfon a adeiladwyd gan Edward I ar arfordir gogledd Cymru yr enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol ganoloesol o’u bath yn Ewrop.  Nhw oedd y darn olaf yng nghynllun strategol y Brenin i goncro Cymru.

Mae’n dyst i gryfder y Cymry fod Edward yn teimlo ei bod yn angenrheidiol i anfon y grym milwrol mwyaf a welwyd erioed ym Mhrydain ganoloesol i Gymru yn 1277. Ei darged oedd y ‘rebel ac aflonyddwr ar heddwch y Brenin’, y Tywysog Cymreig uchelgeisiol Llywelyn ap Gruffudd.  Wedi’i orfodi i encilio i’w berfeddwlad yng ngogledd Cymru, cafodd Llywelyn ei amgylchynu gan gadwyn o gestyll newydd a adeiladwyd gan y brenin.

Arweiniodd teyrnasiad gormesol Edward at wrthryfel Cymreig arall yn 1282, a bu farw Llywelyn yn ystod hwnnw.  I ‘roi terfyn o’r diwedd ar falais y Cymry’ adeiladodd y Brenin fwy o symbolau ei nerth: cestyll cylch consentrig yn Harlech a Biwmares, a phalasau caer yng Nghaernarfon a Chonwy, lle amgylchynodd y ddau gastell a thref gyda waliau amddiffynnol enfawr.  Heddiw mae’r cestyll a’r muriau trefi hyn gyda’i gilydd yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd.

Arysgrif UNESCO 1996

divider curve

Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte

Mae’r Safle Treftadaeth y Byd yn cynnwys grŵp di-dor o nodweddion peirianneg sifil a adeiladwyd rhwng 1795 a 1808. Mae’n gampwaith o ddatblygiad cludiant hanesyddol ac yn waith dau ddyn eithriadol yn hanes peirianneg sifil: Thomas Telford a William Jessop.

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn croesi Dyffryn Dyfrdwy ar uchder o 126 troedfedd / 38.4 metr ac mae’n 1007 troedfedd 307 metr o hyd.  Mae ei 18 o bileri wedi’u tapro wedi eu hadeiladu o dywodfaen a gloddiwyd o grib Cefn gerllaw. Mae’r 19 bwa o haearn bwrw i gyd yn ymestyn 45 troedfedd  (13.7 metr) yn cario cafn haearn bwrw cul sydd ddim ond 1 modfedd 25mm o drwch.

Arysgrif UNESCO 2009

NAVY TAB WHS LOGO