Hepgor gwe-lywio
Ty ol Rhestr English
divider curve

Safle Treftadaeth y Byd Traphont Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas

divider curve

Mae Dyfrbont a’r Gamlas Pontcysyllte yn cynnwys grŵp di-dor o nodweddion peirianneg sifil o gyfnod arwrol o welliannau trafnidiaeth yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain.  Daeth y gamlas â chludiant ar ddŵr o iseldiroedd Lloegr i dir garw ucheldir Cymru, gan ddefnyddio technegau arloesol i groesi dau ddyffryn ag afonydd a’r  crib rhyngddynt.  Cafodd ei adeiladu rhwng 1795 a 1808 gan ddau ffigurau eithriadol yn natblygiad peirianneg sifil: Thomas Telford a William Jessop.  Trwy eu perthynas ddeinamig daeth y gamlas yn faes arbrofi ar gyfer syniadau newydd a gafodd eu dwyn ymlaen i waith peirianneg dilynol yn rhyngwladol.

Cafodd ei arysgrifio’n Safle Treftadaeth y Byd yn 2009 ac i’w cynnwys ar Restr Treftadaeth y Byd, rhaid i safleoedd fod o werth cyffredinol eithriadol a bodloni o leiaf un o ddeg meini prawf dethol.  Mae Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yn cwrdd â’r tri maen prawf canlynol:

  • Maen Prawf (i): Mae Traphont Pontcysyllte yn strwythur peirianneg sifil anferthol arloesol iawn, a wnaed gan ddefnyddio bwâu metel a gefnogir gan bileri cerrig uchel, main. Dyma gampwaith mawr cyntaf y peiriannydd sifil Thomas Telford a ffurfiodd sail i’w enw da rhyngwladol rhagorol. Mae’n dyst i alluoedd cynhyrchu diwydiant haearn Prydain, a oedd yn unigryw ar y pryd.
  • Maen Prawf (ii): Mae faint o gamlesi a adeiladwyd ym Mhrydain Fawr, o ail hanner y 18fed ganrif ymlaen, a’r Chamlas Pontcysyllte yn benodol, mewn rhanbarth anodd, yn dyst i’r cyfnewidfeydd technegol sylweddol a chynnydd pendant wrth ddylunio ac adeiladu dyfrffyrdd artiffisial.
  • Maen Prawf (iv): Mae Camlas Pontysyllte a’i strwythurau peirianneg sifil yn dystiolaeth i gam hanfodol yn y gwaith o ddatblygu cludiant cargo trwm er mwyn hyrwyddo y Chwyldro Diwydiannol ymhellach. Maent yn gynrychiolwyr rhagorol o’i bosibiliadau technegol ac anferthol newydd.

Mae dyfrbont Pontcysyllte yn croesi Dyffryn Dyfrdwy ar bedwar ar bymtheg o rhychwantau haearn bwrw ar uchder o 126 troedfedd / 38.4 metr: strwythur a gydnabyddir yn rhyngwladol fel campwaith o beirianneg dyfrffyrdd ac enghraifft arloesol o adeiladwaith haearn.  Mae’r gamlas yn enghreifftio’r dulliau newydd mewn peirianneg a ddatblygwyd gan Brydain yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ac a ddefnyddiwyd wrth  adeiladu dyfrffyrdd, rheilffordd a’r ffyrdd wedi hynny ledled y byd.  Ymyrrodd y peirianwyr yn y dirwedd gyda graddfa a dwysedd newydd, gan gael eu herio gan yr angen i dorri’r dyfrffyrdd ar draws graen topograffeg ucheldir Cymru.  Ar adeg ei gwblhau, cafodd y gamlas hon ei disgrifio fel ‘cyfansoddiad o weithiau sy’n fwy anodd i’w cyflawni nag o bosibl yn unrhyw le o fewn pellter cyfartal o fordwyo’r gamlas’.  Roedd yn cyfuno egni peirianneg gyda sensitifrwydd arbennig i’w effaith ar dirwedd gwerthfawr.    Byddai pob un o’r nodweddion i’w gweld yn y safle yn dod yn nodweddiadol o lwybrau cludiant peirianegol, gan gynnwys twneli, toriadau, traphynt ac argloddiau, llawer ohonynt yn dechnegol arloesol neu ar raddfa enfawr, ynghyd â phontydd, cylfatiau, coredau a nodweddion cysylltiedig.  Mae’r safle cyfan wedi aros mewn defnydd parhaus am ddau gan mlynedd – am ryw gant tri deg o flynyddoedd gan draffig yn cario glo, haearn, llechi, calchfaen a nwyddau cyffredinol, ac yn fwy diweddar i gario cychod pleser a chludo dŵr yfed.  Mae’n cael ei werthfawrogi yn eang am ei bwysigrwydd hanesyddol, amgylchedd hardd a strwythurau syfrdanol ac mae’n denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr y flwyddyn.

Mae Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn henebion rhagorol o oes y camlesi yn y Deyrnas Unedig, a ffynnodd o’r 1760au hyd nes y sefydlwyd y rhwydwaith rheilffyrdd locomotif o’r 1830au.  Cyrhaeddodd adeiladu camlesi ei anterth ar ôl 1790, yn ystod yr hyn a elwir y ‘Camlas Mania’ a welodd 1,180 milltir / 1,900 cilometr o ddyfrffyrdd newydd yn cael eu cwblhau mewn dim ond 20 mlynedd.  Cynrychiolodd y gwaith o adeiladu rhwydwaith o gamlesi ym Mhrydain i ddarparu cludiant ar gyfer deunyddiau a nwyddau crai gyfnod newydd yn hanes mordwyaeth fewndirol ac roedd yn ffactor sylfaenol yn y Chwyldro Diwydiannol, gan alluogi a hyrwyddo twf economaidd cyflym, arbenigedd rhanbarthol a threfoli.