Hepgor gwe-lywio
Ty ol Rhestr English
Gweld Y Lleoliad
Gweld Lluniau
Close

Eglwys y Santes Fair

Distance to here: km ( miltir)

Mae Eglwys y Santes Fair yn adeilad trawiadol rhestredig Gradd 1 ac yn bennaf o'r 15fed ganrif gyda rhai olion adeilad cynharach. Mae ganddo gasgliad rhyfeddol o gofebion o'r 18fed ganrif y teulu Myddelton, cyn-berchnogion Castell Y Waun, a Theulu Trefor, yr hen brif dirfeddianwyr lleol. Mae'r eglwys hefyd yn cynnwys rhai cerfiadau to wedi’u hadfer a'u peintio o adeiladau ac anifeiliaid rhyfedd yr edrychiad a nifer o enghreifftiau o arfau herodrol.

Ychwanegu at y deithlenView more information
parking

Eglwys y Santes Fair

Pellter i’r fan yma: km ( miltir)

Mae Eglwys y Santes Fair yn adeilad trawiadol rhestredig Gradd 1 ac yn bennaf o'r 15fed ganrif gyda rhai olion adeilad cynharach. Mae ganddo gasgliad rhyfeddol o gofebion o'r 18fed ganrif y teulu Myddelton, cyn-berchnogion Castell Y Waun, a Theulu Trefor, yr hen brif dirfeddianwyr lleol. Mae'r eglwys hefyd yn cynnwys rhai cerfiadau to wedi’u hadfer a'u peintio o adeiladau ac anifeiliaid rhyfedd yr edrychiad a nifer o enghreifftiau o arfau herodrol.

Ychwanegu at y deithlen
decor wave
decor wave

Atyniad Gwybodaeth

  • Argymhellir Amser Yma 1-2 awr
  • Lleoliad Y Waun, Wrecsam
parking
Ychwanegu at y deithlen

Mae'r eglwys wedi ei hadeiladu yn rhannol ar sylfeini Normanaidd 11eg ganrif, cafodd yr ystlys ogleddol a’r tŵr ei adeiladu yn ddiweddarach tua 1475. Mae'r cynllun anarferol yn un ystlys ddwbl, heb unrhyw gangell amlwg a dim ond un cysegr bychan. Mae llawer o'r tu mewn, yn enwedig yr ystlys ddeheuol, yn cael ei ddominyddu gan gofebion cerfiedig, i'r teulu Myddelton.
Mae bylau’r to yn rhai gwreiddiol o ddiwedd y 15fed ganrif. Mae'r cerfiadau pren diddorol, a ail-baentiwyd yn y 1970au, yn cynrychioli ffurf gelfyddyd ganoloesol gyffredin, ac yn adlewyrchu nid yn unig creaduriaid o'r Hen Destament, ond hefyd bwystfilod chwedlonol. Credir bod bwlyn y castell yn cynrychioli Castell y Waun.
Mae cysylltiadau hanesyddol enwog yn cynnwys Frances Maude, awdur yr emyn "Thine Forever", sydd wedi ei gladdu yn y fynwent. Bu’r bardd Cymreig R.S. Thomas yn gwasanaethau ei guradiaeth gyntaf yma o 1936 i 1941.