Tripiau Cwch a Llogi Cwch
Mae 5 gwmni o fewn 11 milltir o Safle Treftadaeth y Byd sy’n cynnig tripiau cwch ar hyd y gamlas ac ar draws Dyfrbont Pontcysyllte.
Anglo Welsh- Llogi Cychod
Mae cwmni ‘Anglo Welsh’ yn un o’r cwmniau gwyliau cychod camlas mwyaf o’u math yn y DU. Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ac enw da mewn darparu gwyliau o safon uchel am bris rhesymol.
Ceir cychod dydd i’w llogi, felly gallwch deithio drwy’r Safle Treftadaeth y Byd gan fwynhau’r profiad o hwylio ar draws Dyfrbontydd godidog Pontcysyllte a’r Waun, a llywio dau dwnel apont droi i gyd mewn diwrnod.
Glanfa Llangollen
Mae Lanfa Llangollen yw un o’r atyniadau ymwelwyr hynaf yn nhref farchnad Llangollen yng Ngogledd Cymru. O’r lanfa gallwch gychwyn ar naill ai daith dynnu gan geffyl ar gwch ar hyd gamlas fwydo i’r brif gamlas, neu daith gwch modur ar y draphont ddŵr sy’n mynd â chi ar draws Dyfrbont enwog Pontcysyllte. Mae’r ddwy daith gwch hyn yn cymryd i mewn golygfeydd hudolus a synau’r Dyfrbont hardd a Safle Treftadaeth y Byd y Gamlas.
Black Prince
Gyda ‘Black Prince’ gallwch ddewis gwyliau cwch camlas at eich anghenion chi gydag arosiadau hyblyg o’r marina yn y Waun.
Nid oes angen profiad blaenorol a chaiff cyfarwyddiadau llawn eu rhoi cyn I chi fynd I archwillio’r safle Traftedaeth y Byd.
Ymddiriedolaeth Cwch Camlas Dyffryn Llangollen
Teithiau cwch camlas i bobl anabl a difreintiedig
Gwefan Teithiau cwch camlas i bobl anabl a difreintiedig
Crest Narrowbaots
Mae Crest Narrowboats yw busnes llogi cychod cul camlas teuluol, mae gan rhai aelodau mwy na 50 mlynedd o brofiad mewn rheoli fflyd llogi gwyliau cychod cul. Rydym mewn lleoliad perffaith rhwng Dyfrbontydd y Waun a Pontcysyllte ar gyfer gwyliau cychod cul ar Gamlesi Lloegr a Chymru.

